Caution: JavaScript execution is disabled in your browser or for this website. You may not be able to answer all questions in this survey. Please, verify your browser parameters.

Natur a Llesiant yng Ngwynedd

Nod yr arolwg yw deall profiadau pobl o natur, mannau gwyrdd, bywyd gwyllt a'ch ardal leol. Mae'n rhan o brosiect sy'n ymchwilio i ardaloedd ar gyfer seilwaith glas a gwyrdd ledled Gwynedd.

Rydym eisiau deall sut rydych chi'n defnyddio, yn mwynhau ac yn cael budd o ardaloedd gwyrdd lleol, fel y gallwn weithio gyda chi i wella mynediad at natur a rhio budd i bobl a bywyd gwyllt. Rydym eisiau eich barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid. Dylai'r arolwg gymryd 5-10 munud.

Mae'r arolwg wedi'i greu a'i reoli gan Tranquil City fel rhan o dîm consortiwm EGY Design sy'n cyflawni'r prosiect ar ran Cyngor Gwynedd. Bydd yn gysylltiedig ag arolygon lleol a gynhelir o amgylch yr ardaloedd prosiect. Bydd yr holl ymatebion yn aros yn ddienw a dim ond canfyddiadau crynodedig fydd yn cael eu hadrodd.

Datganiad Preifatrwydd

Dim ond ar gyfer dadansoddi'r arolwg y bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir yn cael ei defnyddio. Bydd yn cael ei rhannu â chwmni allanol i'w dadansoddi. Bydd unrhyw adroddiadau cyhoeddus yn ddienw. Cedwir data personol am 5 mlynedd. Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni yw Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, sef caniatâd; Erthygl 6(1)(e) yw tasg gyhoeddus.

Ymwadiad: Mae'r ymgynghoriad hwn yn casglu gwybodaeth cyfeiriad IP i atal ymatebion dyblyg neu awtomataidd. Defnyddir y wybodaeth hon i ddiogelu cywirdeb canlyniadau'r ymgynghoriad yn unig ac ni chaiff ei defnyddio i adnabod ymatebwyr yn bersonol. Caiff yr holl ddata ei brosesu'n ddiogel ac yn unol â chyfreithiau diogelu data cymwys.

Os ydych chi'n hapus i gwblhau'r arolwg, dewiswch y botwm 'nesaf' isod i ddechrau.

Mae 36 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.
Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Nid yw'r cofnod o'ch ymatebion i'r arolwg yn cynnwys unrhyw wybodaeth adnabod amdanoch chi, oni bai bod cwestiwn arolwg penodol wedi gofyn yn benodol amdanynt.

Os ydych wedi defnyddio tocyn adnabod i gael mynediad i'r arolwg hwn, ni fydd y tocyn hwn yn cael ei storio ynghyd â'ch ymatebion. Fe'i rheolir mewn cronfa ddata ar wahân a chaiff ei ddiweddaru ond i nodi a wnaethoch chi gwblhau'r arolwg hwn (neu beidio). Nid oes modd cyfateb tocynnau adnabod gydag ymatebion i'r arolwg.